Mae’r ymgyrchydd amgylcheddol George Monbiot yn dweud bod rhai cadwraethwyr afonydd yn “byw ar ddwy blaned wahanol”.

Roedd yn ymateb i ddadl ynglŷn â gosod llosgyddion ger yr afon Gwy er mwyn atal gwastraff o ffermydd dofednod cyfagos rhag llygru’r dŵr.

Mae’n debyg fod gwrtaith cywion ieir yn cael ei wasgaru ar gaeau yn yr ardal a bod hynny’n llifo i mewn i’r Gwy, gan gynyddu lefelau ffosffad yr afon a pheryglu bywyd gwyllt.

Fe wnaeth dros 75,000 o bobol alw ar Gyngor Powys i weithredu mwy yn erbyn ffermydd ieir ym mis Medi oherwydd ansawdd y dŵr.

Ym mis Hydref, dywedodd Avara Foods, sydd â ffermydd dofednod yn yr ardal, eu bod nhw am leihau lefelau ffosffad yn yr afon drwy broses losgi o’r enw pyrolysis.

Roedd y Wye Catchment Conservators, corff sy’n cynrychioli pysgodfeydd yr afon, yn ymddangos fel eu bod nhw’n croesawu hyn ar Twitter, gan ddweud bod angen “ateb ymarferol a chyraeddadwy yn sydyn” er mwyn datrys y broblem.

Dywedon nhw hefyd fod “y Deyrnas Unedig yn parhau i fod angen cyw iâr,” a bod angen i unrhyw ddatrysiad ystyried hynny.

Dewis nid angen

Ond roedd George Monbiot yn cwestiynu a oedd yr honiad hwnnw’n wir, gan ddweud bod angen i gadwraethwyr gydnabod effaith ffermio cig.

“Rwy’n meddwl ei bod hi’n well dweud bod pobol yn y Deyrnas Unedig yn dewis bwyta cyw iâr, a’n bod ni ddim ‘angen’ cyw iâr,” meddai wrth ymateb ar Twitter.

“Mae’n amser i gadwraethwyr fod yn fwy eofn a siarad yn erbyn achos mwyaf dinistr ecolegol y byd, sef ffermio anifeiliaid.

“Mae cadwraethwyr afonydd rydw i’n eu cyfarfod yn gwrthwynebu’r trychinebau hyn, ond maen nhw’n parhau i fwyta cig fel pe na bai yfory.

“Mae fel petai eu bod nhw ar ddwy blaned wahanol ar unwaith.”

Ymateb

Wrth ymateb ar Twitter, roedd Wye Catchment Conservators i weld yn cytuno â’i sylwadau, gan ddweud bod “cig gwyn wedi cael ei wthio mwy na chig coch yn hanesyddol am resymau iechyd” a bod byth sôn am beidio bwyta dim cig o gwbl.

Roedd un arall ar Twitter yn bryderus o’r cynlluniau i godi llosgyddion, gan ddweud bod cyfleusterau tebyg wedi cael eu gwrthod yn yr Unol Daleithiau ar sail llygredd aer.

Ansawdd dŵr Afon Gwy: galw am weithredu yn erbyn ffermydd ieir Powys

Mae dros 75,000 wedi arwyddo deiseb ynghylch y mater