Mae criw fu’n ceisio codi digon o arian i brynu tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron fel rhan o fenter gymunedol wedi bwrw eu targed.

Roedden nhw’n anelu i godi £330,000 cyn i’r dyddiad cau fynd heibio neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 12).

Ar ôl blynyddoedd dan berchnogaeth Rowland a Daphne Evans, aeth y dafarn ar werth, a’r denantiaeth bresennol wedi dod i ben erbyn yr hydref.

Ond roedd ansicrwydd ynghylch beth fyddai’n dod nesaf i’r dafarn, sydd wedi bod yn rhan o galon y gymuned ers blynyddoedd lawer.

Daeth criw bach ynghyd i ystyried a fyddai modd ffurfio menter gydweithredol i brynu’r dafarn, a’i rhedeg fel adnodd i’r gymuned.

Erbyn dydd Gwener (Rhagfyr 10), roedd gan y Fenter gydweithredol 400 o aelodau, wrth i bobol, busnesau a mudiadau lleol ymuno ag enwogion megis Matthew Rhys a Rhys Ifans a phrynu cyfran yn y fenter.

Roedd y band Bwca wedi datgan eu cefnogaeth dros yr achos hefyd, a hynny drwy ryddhau cân newydd i godi arian at yr achos.