Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer ardal y Borth a glannau afon Leri.

Mae trigolion yr ardal yn cael eu rhybuddio am lanw a llif afon uchel rhwng 21:15 a 23:45 heno (nos Fawrth, Rhagfyr 7), gyda disgwyl y bydd tonnau yn torri’r lan ac achosi llifogydd mewn rhai mannau.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, gallai llifogydd gael eu hachosi yn y Borth, Parc Carafanau Glanleri a’r Animalariwm, ynghyd â’r ardal rhwng Ynyslas a Brynowen.

Rhybudd tywydd melyn

Daw’r rhybuddion llifogydd ar ôl i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd melyn dros Gymru rhwng 9 o’r gloch a hanner nos heno.

Bydd Storm Barra yn dod â gwyntoedd cryfion i Gymru yn y cyfnod hwn, a gallai hynny effeithio ar gyflenwadau trydan ac amharu ar deithwyr.

Bydd y rhybudd melyn yn parhau tan 6yh nos yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 8) yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg.

Mae disgwyl y bydd gwyntoedd yn cyrraedd hyd at 70 milltir yr awr ger yr arfordir dros y 21 awr mae’r rhybuddion mewn grym.

Mae Cyngor Ceredigion yn galw ar bobol i ffonio llinell gymorth ar 0345 988 1188 neu ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydyn nhw’n profi neu’n poeni am lifogydd.

Hefyd, bydd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd yn rhoi diweddariadau am sefyllfa’r tywydd drwy gydol y nos.

Disgwyl gwyntoedd cryfion yn sgil Storm Barra

Rhybudd tywydd melyn wedi’i osod dros Gymru i gyd rhwng 9 o’r gloch a hanner nos heddiw (7 Rhagfyr), a bydd yn berthnasol i rannau o Gymru fory hefyd

Dechrau’r gwaith o glirio’r llanast yn sgil Storm Arwen

Fe wnaeth y storm stopio trenau rhag gweithredu, rhwygo coed o’u gwreiddiau a rhwygo ceblau pŵer