Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cyfarfod wythnos nesaf i drafod adeiladu ysgol uwchradd newydd ym Mhrestatyn.

Fe wnaeth y Cynghorydd Paul Penlington (Plaid Cymru), sy’n cynrychioli Gogledd Prestatyn ar y cyngor, roi cynnig ymlaen i sicrhau cyllid ar gyfer ailadeiladu neu atgyweirio Ysgol Uwchradd Prestatyn, yn dilyn honiadau bod ei hadeiladau’n adfeilio.

Roedd rhieni hefyd wedi cwyno am safonau gwael yr addysg sy’n cael ei gynnig a lles disgyblion yr ysgol, gydag un cwyn yn honni bod disgybl anabl wedi llusgo ei hun gerfydd ei ben ôl fyny set o risiau, achos bod dim lifft ar gael.

Pe bai’r cyllid yn cael ei ddarparu, dywed Paul Penlington y gallai’r cyngor hawlio hyd at £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith.

Cyllid

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cydweithio gyda rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, gan eisoes sicrhau £95 miliwn i wella ysgolion yn y sir.

Bydd y cyllid hwnnw’n parhau tan 2024, ond does dim cynlluniau wedi eu crybwyll ar gyfer yr ysgol ym Mhrestatyn.

“Oni bai bod gan Gyngor Sir Ddinbych gronfeydd enfawr dw i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw, rydyn ni bellach ag ond un opsiwn i ariannu ysgol newydd ym Mhrestatyn,” meddai’r Cynghorydd Paul Penlington.

“Mae angen i unrhyw geisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, gan ddefnyddio cyllid refeniw.

“Dyna’r unig ffrwd ariannu gan y Llywodraeth sydd ar gael i ysgolion newydd nawr.”

‘Buddsoddi adnoddau sylweddol’

Yn dilyn y galwadau i wella safonau adeiladau’r ysgol, fe wnaeth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Annibynnol), yr aelod cabinet ar gyfer addysg, amddiffyn y gwaith roedd y cyngor wedi ei wneud ar gyfer yr ysgol.

“Fel cyngor rydyn ni wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i sicrhau lleoliad addysg rhagorol yn yr ysgol,” meddai.

“Mae’r cyngor wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau £95 miliwn o adnewyddiadau ysgolion ac adeiladau newydd ledled y sir o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

“Amlygodd amlinelliad o strategaeth y cyngor ar gyfer adnewyddu ysgolion, a gafodd ei gyflwyno yn 2017 i Lywodraeth Cymru, yr angen i fuddsoddi yn Ysgol Prestatyn wrth dderbyn cyllid yn y dyfodol.”

Honni bod Ysgol Uwchradd Prestatyn yn syrthio yn ddarnau a’r to yn gollwng

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

“Mae ein plant yn cael eu dysgu mewn adeiladau gorlawn gyda bwcedi yn dal dŵr o’r to sy’n gollwng, a phlastar yn disgyn oddi ar y waliau”

Rhieni yn cwyno am safonau gwael Ysgol Uwchradd Prestatyn

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

Un rhiant yn honni gweld disgybl anabl yn llusgo ei hun gerfydd ei ben ôl fyny set o risiau, achos bod dim lifft ar gael