Mae rhieni plant sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn Sir Ddinbych wedi beirniadu safonau gwael yr adeiladau, yr addysg a lles disgyblion.
Roedd un a oedd yn cwyno am yr ysgol wedi gweld disgybl anabl yn llusgo ei hun gerfydd ei ben ôl fyny set o risiau, achos bod dim lifft ar gael yno.
Honnodd y Cynghorydd Paul Penlington fod yr ysgol uwchradd yn syrthio yn ddarnau a bod plant yn “cael eu gwasgu – fel sardîns – i mewn i adeiladau hynafol ac annigonol.”
Roedd y Cynghorydd dros ward Gogledd Prestatyn hefyd yn nodi bod yr ysgol wedi colli allan ar fuddsoddiad, tra bod ysgolion eraill Sir Ddinbych wedi derbyn miliynau o bunnoedd.
Mewn ymateb i hynny, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, bod yr ysgol wedi derbyn £2 miliwn ar gyfer uwchraddio’r adeilad a’r toiledau dros y saith mlynedd ddiwethaf.
‘Mae’r ysgol yn jôc’
Mae’r Cynghorydd Paul Penlington yn dweud bod rhieni pryderus wedi ei foddi gyda chwynion am safonau adeiladau, addysg a lles disgyblion yn yr ysgol
Roedd un rhiant, Becky Spruce, yn dweud bod dim gwaith wedi ei wneud ar yr ysgol ers iddi hi fod yn ddisgybl yno dros ugain mlynedd yn ôl, a dywedodd bod staff a disgyblion yn “haeddu cael ysgol o’r safon sydd i’w ddisgwyl yn y 21ain ganrif.”
Dywedodd un mam oedd am aros yn ddienw bod yr ysgol heb roi cefnogaeth ddigonol i’w merch, sydd â dyslecsia.
“Maen Ysgol Uwchradd Prestatyn yn mynnu dweud nad oes ganddyn nhw’r cyllid i’w chefnogi hi,” meddai.
“Felly maen nhw’n gadael i fy mhlentyn ddisgyn ar ei hôl hi a gadael iddi frwydro. Mae fy merch arall yn awtistig, a dw i’n teimlo eu bod nhw ddim yn ei chefnogi hi digon chwaith.
“Mae’r ysgol yn jôc, a fydda i ddim yn anfon fy mhlant ieuengaf i’r ysgol uwchradd yma.”
Roedd mam arall, Katrina Davies, yn dweud bod ei mab wedi gorfod symud i Ysgol Uwchradd y Rhyl achos bwlio ac nad oedd “amgylchedd ddiogel” yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.
Dywedodd hi hefyd ei bod hi’n ymwybodol o ddau blentyn a gafodd eu “herlid allan” o’r ysgol oherwydd homoffobia.
“Buddsoddi adnoddau sylweddol”
Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn amddiffyn y gwaith roedd y cyngor wedi ei wneud ar gyfer yr ysgol.
“Fel cyngor rydyn ni wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i sicrhau lleoliad addysg rhagorol yn yr ysgol,” meddai.
“Mae hyn yn seiliedig ar raglen a gafodd ei chytuno arni rhwng yr ysgol a’r awdurdod lleol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu at y meysydd cywir.
“Rhwng 2014 ac eleni, cafodd £2 miliwn ei wario ar gynnal a gwella adeilad yr ysgol gan gynnwys adnewyddu toiledau ac ystafelloedd newid, uwchraddio goleuadau a gwresogi, ynghyd â gwaith ar y to, ffenestri ac adnewyddu ystafelloedd dosbarth symudol.
“Mae hyn hefyd yn cynnwys ailwampio ac ailgynllunio’r labordai gwyddoniaeth ar hyn o bryd i’r safon uchaf.
“Mae’r cyngor wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau £95 miliwn o adnewyddiadau ysgolion ac adeiladau newydd ledled y sir o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
“Amlygodd amlinelliad o strategaeth y cyngor ar gyfer adnewyddu ysgolion, a gafodd ei gyflwyno yn 2017 i Lywodraeth Cymru, yr angen i fuddsoddi yn Ysgol Prestatyn wrth dderbyn cyllid yn y dyfodol.
“Mae’r ysgol hefyd yn cymryd agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, ac mae staff yn delio ag unrhyw achosion yn gyflym ac yn effeithiol.
“Bydd y cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda’r pennaeth a’r staff sy’n gweithio’n ddiflino i ddarparu’r addysg a’r gofal bugeiliol gorau posibl.”