Mae teulu wedi talu teyrnged i ddyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Joseph Hollingsworth, a oedd yn cael ei adnabod fel Joe, ei ladd ar ôl i’w gar daro i mewn i wal ar ochr ffordd yr A5 ar gyrion Llangefni ddydd Iau (Rhagfyr 2).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad rhwng Rhostrehwfa a Thyrpeg Nant tua 17:30, ond bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Mae dyn arall 25 oed, a oedd yn teithio gyda Hollingsworth, wedi derbyn anafiadau difrifol ac yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr uned trawma arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.

Teyrnged

Mae teulu Joseph Hollingsworth, a oedd yn wreiddiol o ardal Caergybi, wedi talu teyrnged iddo mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan Heddlu’r Gogledd Gogledd.

“Roedd ganddo galon o aur, a gwen fach ddireidus,” medden nhw.

“Mae wedi ein gadael ni’n rhy fuan. Bydd dy deulu a llawer o ffrindiau yn dy golli di am byth.”

Apêl

Mae’r heddlu yn parhau i apelio am dystion, neu unrhyw un a allai ddarparu gwybodaeth sydd o gymorth i’r ymchwilwyr, gan gynnwys lluniau dash cam neu gamerâu cylch cyfyng.

Mae modd cysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd drwy sgwrs fyw ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu’r rhif cyfeirnod 21000837019.

Dyn lleol wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar gyrion Llangefni ym Môn

Gyrrwr car Seat Leon wedi marw, a dyn oedd yn cyd-deithio mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke