Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cymeradwyo cynllun gweithredu a gafodd ei gynnig gan y Comisiynydd Dafydd Llywelyn.

Bydd y cynllun ar gyfer 2021-25 yn cynnwys nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys cefnogi dioddefwyr troseddau, atal niwed i unigolion a chymunedau, a gwella hyder yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r Comisiynydd eisoes wedi sicrhau £600,000 i gynyddu’r gefnogaeth i ddioddefwyr trais yn yr ardal heddlu, yn dilyn pwysau am gefnogaeth ychwanegol o ganlyniad i’r pandemig a llofruddiaeth Sarah Everard.

Dywedodd y byddai’n gwneud gwelliannau i’r system gyfiawnder, gan fod nifer sylweddol o ddioddefwyr wedi tynnu allan o’r broses.

Roedd hefyd yn gobeithio sicrhau bod presenoldeb swyddogion yn uwch ar draws yr ardal, yn enwedig wrth blismona ardaloedd gwledig.

Cyfarfod

Yn ystod cyfarfod heddiw (18 Tachwedd), bu’r Panel yn craffu ar benderfyniadau a gweithredoedd y Comisiynydd.

Dywedodd y Comisiynydd mai ei brif nod oedd cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, a chefnogi pobl i gynnal ymddiriedaeth a hyder mewn plismona a chyfiawnder.

Dywedodd Cadeirydd y Panel, Alun Lloyd Jones: “Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi cael y cyfle i graffu ar y cynllun a chyfrannu ato ar ran, ac er lles, pobl Dyfed-Powys.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynllun gorffenedig.”