Mae cynlluniau i ddymchwel hen dafarn Fictoraidd yn y Rhath, Caerdydd, wedi cael eu cadarnhau.

Llynedd, fe wnaeth datblygwyr wneud cais i ddymchwel tafarn The Roath Park ac adeiladu bloc o fflatiau saith llawr yn ei le.

Yn hwyrach ymlaen, fe wnaethon nhw ddiwygio eu cynlluniau, gan ymgeisio i gael gwared â’r adeilad heb adeiladu dim byd yn ei le.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd roi caniatâd iddyn nhw wneud hynny’r wythnos hon, er gwaetha gwrthwynebiad gan drigolion lleol.

Roedd y dafarn, sydd ar gornel City Road a Stryd Kincaid, yn arfer cael ei redeg gan y bragwr SA Brain.

Gwrthwynebiad

Roedd 60 o bobol i gyd wedi ysgrifennu at y Cyngor, gan fynegi eu hanhapusrwydd bod yr adeilad yn cael ei ddymchwel.

“Mae’r adeilad yn rhan o ffabrig hanesyddol y ddinas,” meddai un ohonyn nhw.

“Mae’n warthus bod ein cenhedlaeth ni yn caniatáu i’r adeiladau prydferth hyn yn ein cymdeithas gael eu dymchwel, ac am beth? Ar gyfer buddion ariannol corfforaethau di-wyneb, sy’n poeni dim am y ddinas hon.”

Dywedodd un arall a oedd yn cwyno: “Mae tafarn The Roath Park yn adeilad hanesyddol gydag etifeddiaeth o fod yn ganolbwynt cymunedol hirhoedlog, fel tafarn ac fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau creadigol a chelfyddydol.

“Oni bai bod y datblygiad yn bwriadu cadw elfennau o’r adeilad, mae yna risg y bydd yn cyfrannu at y boneddigeiddio niweidiol a pharhaus sy’n digwydd yn ein dinas ni.”

Mae City Road wedi gweld tafarn hanesyddol arall yn cael ei dymchwel yn ddiweddar – cafodd The Poets Corner lawr y lôn o The Roath Park ei fwrw i lawr yn 2016 er mwyn gwneud lle i fflatiau myfyrwyr, sydd eto i gael eu hadeiladu.

Ymateb y Cyngor

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, bostio ar Twitter y llynedd y byddai’n “siom fawr colli tafarn hanesyddol fel [The Roath Park].”

Roedd cynghorwyr Llafur sy’n cynrychioli’r Rhath hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn y cais cynllunio.

Mae’n debyg fod gan bwyllgor cynllunio’r Cyngor ychydig o rymoedd i wrthod perchnogion eiddo rhag dymchwel adeiladau hanesyddol, fel The Roath Park.

“Nid oes gan yr adran gynllunio unrhyw bŵer i atal tirfeddiannwr preifat rhag dymchwel ei adeilad ei hun, gan fod hyn yn cael ei ystyried yn ‘ddatblygiad a ganiateir’ o dan y ddeddfwriaeth gynllunio,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Roedd ymdrechion wedi bod i restru’r adeilad gan rhai partïon, ond penderfynodd Cadw ei fod wedi ei ‘newid yn helaeth’ ers iddo gael ei adeiladu gyntaf.

“Nid oedd felly’n cael ei ystyried o arwyddocâd hanesyddol cenedlaethol ac/neu bensaernïol cenedlaethol digonol i deilyngu statws Adeilad Rhestredig.

“Yr unig bŵer sydd gan y cyngor, yw cytuno sut mae’r adeilad yn cael ei ddymchwel gan y datblygwr i sicrhau bod yr holl ofynion iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni.”