Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, wedi sicrhau £600,000 i gynyddu’r gefnogaeth i ddioddefwyr trais yn yr ardal heddlu.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth i’r holl ddioddefwyr sydd yn benodol wedi profi cam-driniaeth ddomestig neu drais rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywydau.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pwysau am gefnogaeth ychwanegol o ganlyniad i’r pandemig a llofruddiaeth Sarah Everard.
Bydd y gefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu gan sefydliadau cymorth annibynnol ar draws ardal heddlu Dyfed-Powys.
Mae hynny’n cynnwys creu naw rôl arbenigol, yn ogystal â darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol lleol allu cyfathrebu’n well â dioddefwyr.
Cyhoeddiad y Comisiynydd
Dywed Dafydd Llywelyn y bydd yr arian ychwanegol yn cael “effaith uniongyrchol” ar wasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr.
“Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ddiweddar,” meddai.
“Mae darparwyr gwasanaeth wedi profi cynnydd sylweddol yn nifer y bobol sydd angen mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol yn anffodus.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau sydd ar gael, a bydd yn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gefnogaeth ofynnol i’w helpu i wella ac arwain at ddyfodol heb gamdriniaeth.
“Hoffwn ddiolch i’n holl ddarparwyr gwasanaeth yma yn ardal Dyfed-Powys am eu gwaith caled a’r gefnogaeth hanfodol y maent yn ei darparu i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n ei gael ei hun mewn sefyllfa neu berthynas ymosodol i roi gwybod amdano i’r Heddlu ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Nid oes angen i chi ddioddef mewn distawrwydd.”
Arian ychwanegol yn “amhrisiadwy”
Mae Hafan Cymru yn un o’r darparwyr gwasanaeth yn ardal Dyfed-Powys a fydd yn elwa o’r cyllid.
“Mae’r cyllid ychwanegol wedi bod yn amhrisiadwy wrth gefnogi’r gwasanaeth trais domestig ar draws Dyfed Powys,” meddai Necia Lewis, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r sefydliad.
“Mae wedi caniatáu inni gefnogi’r nifer cynyddol o ddioddefwyr sy’n cyrchu’r gwasanaethau, gan ein galluogi i ddarparu gweithwyr arbenigol, fel gweithwyr Gwryw-benodol ledled y rhanbarth.
“Rydym wedi cynyddu ein hyfforddiant staff i sicrhau bod gennym sgiliau pellach a gwybodaeth berthnasol i gefnogi anghenion ein cleientiaid yn gadarn.”
Bydd cyfanswm o £629,093 yn rhan o’r cyllid ychwanegol yn 2021/22, gydag ymrwymiad o £300,000 wedi ei sicrhau ar gyfer 2022/23.
Mae hynny’n codi cyfanswm y buddsoddiad mewn gwasanaethau dioddefwyr i dros £1.7m yn ystod 2021/22.