Mae Ysgrifennydd Economi Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o amddifadu Cymru o’r “buddsoddiad hanfodol sydd ei angen i greu swyddi”.
Dywed Vaughan Gething eu bod yn gwneud hyn drwy beidio â chynnwys Llywodraeth Cymru mewn penderfyniadau ynghylch sut y caiff arian newydd ar gyfer cymorth yr Undeb Ewropeaidd ei wario.
Mae Vaughan Gething yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod “ar goll”, gan alw ar y “Canghellor [Rishi Sunak] a Michael Gove i sicrhau y bydd Cymru’n gwneud penderfyniadau”.
Roedd yn siarad yn lansiad cynllun Llywodraeth Cymru i roi rhesymau pam fod angen i fwy o bobol ifanc aros yng Nghymru.
‘Dal i fod yn y tywyllwch’
“Rydym yn dal i fod yn y tywyllwch am gyllid i Gymru, a’r hyn y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi bod ar goll hyd yma,” meddai Vaughan Gething.
“Mae’r Adolygiad o Wariant sydd ar y gweill yn gyfle perffaith i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos ei huchelgais i Gymru.
“Felly, galwaf ar y Canghellor ac ar Michael Gove i sicrhau y bydd Cymru’n gwneud penderfyniadau ynghylch sut y caiff ein cronfeydd newydd yn yr Undeb Ewropeaidd eu gwario.
“Fy uchelgais yw gwneud Cymru’n lle mae pobol ifanc yn teimlo’n obeithiol ac yn gyffrous am gynllunio eu dyfodol.”
“Uchelgais”
Ddoe (dydd Llun, Hydref 18), cyhoeddodd Vaughan Gething gynllun i sicrhau nad yw pobol ifanc yn teimlo bod rhaid gadael Cymru i lwyddo.
Mae cyfran y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers canol 2008 – a gallai ostwng i ddim ond 58% o’r boblogaeth erbyn 2043, yn ôl rhagolygon.
Mewn ymateb, bydd Vaughan Gething yn dweud y bydd ei ddull yn cael ei anelu at greu economi lle mae mwy o bobol ifanc yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru, gan gefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy deinamig.
“Fy uchelgais yw gwneud Cymru’n lle mae mwy o bobol ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma,” meddai.
“Does dim rhaid i chi adael Cymru i lwyddo, gwnewch eich dyfodol yma yng Nghymru.”
Polisi economaidd “blaengar”
Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn polisi economaidd “blaengar” sy’n canolbwyntio ar swyddi gwell a mynd i’r afael â thlodi.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach,” meddai Vaughan Gething.
“Bydd adferiad Cymreig cryf yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd wrth i ni fuddsoddi yn niwydiant a gwasanaethau’r dyfodol.
“Wrth i ni wynebu trafferthion Brexit, rwy’n benderfynol y bydd ein cynlluniau credadwy yn cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw.
“Cyfnod newydd o bartneriaeth ar gyfer creu rhanbarthau cryfach, cefnogaeth a gwarant i bob person ifanc, cynllun i gefnogi ein heconomi bob dydd a chydweithio â gweithgynhyrchu sy’n arwain y byd.
“Dyma’r achos dros optimistiaeth ar gyfer y dyfodol rydym yn ei adeiladu yng Nghymru.”