Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi atseinio galwadau y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones am gorff newydd i gynllunio dyfodol y Gymraeg, wrth i Heini Gruffudd ddweud wrth golwg360 nad oes “dim dilyniant” o un Gweinidog i’r llall.
Ar hyn o bryd, Isadran y Gymraeg sy’n gyfrifol am weithredu’r iaith o fewn y Llywodraeth, gyda’r adran honno’n disgyn o fewn yr Adran Addysg ehangach sy’n cael ei harwain gan y Gweinidog Jeremy Miles.
Fe wnaeth Ieuan Wyn Jones alw am y corff hyd braich i hybu’r Gymraeg yn ei hunangofiant newydd, O’r Cyrion i’r Canol.
Pan oedd yn Ddirprwy Brif Weinidog, roedd yn rhan o’r Llywodraeth a sefydlodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phenodi Comisiynydd cyntaf y Gymraeg.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn credu bod angen corff er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd sydd angen sylw brys wrth ystyried yr iaith – fel tai, datblygu cymunedau, a’r economi.
Rhwystredigaethau
Mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, yn nodi nifer o rwystredigaethau gyda’r drefn bresennol o lywodraethu’r Gymraeg.
“Un rhwystredigaeth ydi bod gweinidog y Gymraeg yn newid bob yn ail neu drydedd blwyddyn,” meddai wrth golwg360.
“Mae pob un yn edrych o’r newydd ar y sefyllfa, ac fel pe baen nhw’n dechrau o bwynt sero, gyda’u dehongliadau eu hunain.
“Roedd Alun Davies, pan oedd e’n weinidog, wedi cefnogi’r syniad o gael corff annibynnol, ond ar ôl iddo fe fynd, daeth Eluned [Morgan] a gwrthod y syniad.
“Does dim dilyniant o un gweinidog i’r llall.”
Isadran y Gymraeg
“Rhwystredigaeth arall yw bod y gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan Isadran y Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd.
“Dyna yw sefyllfa’r iaith yn y Llywodraeth – mae’n isadran sy’n rhan o’r weinyddiaeth sifil addysg.
“Mae hi felly heb fawr o broffil, a dw i’n siŵr bod yr isadran yna’n gwneud eu gorau, ond does ganddyn nhw ddim yr amlygrwydd yn genedlaethol, ac maen nhw wedi eu claddu yn y Llywodraeth.
“Er eu bod nhw’n trio gweithredu’n drawsadrannol, dydy eu gallu nhw ddim yn fawr.
“Yn drydydd, mae’r isadran wedi methu â phenodi arbenigwyr yn y maes i’w cynghori nhw.
“Roedd hyn yn addewid a ddylai fod wedi digwydd tair blynedd yn ôl, a hyd y gwn i, dydy hyn heb ddigwydd eto.
“Rydych chi wedyn yn mynd o un cam i gam arall heb arolwg ar y cyfan.”
Galwadau
Bydd Dyfodol i’r Iaith yn atseinio’r alwad am gorff hyd braich arbenigol i reoli defnydd o’r Gymraeg ymhob maes.
“Mae’n glir bod angen corff sylweddol o arbenigwyr sydd yn barhaus yn ei ddylanwad,” meddai Heini Gruffudd wedyn.
“Mae angen i’r corff allu gweithredu gyda mwy o ddychymyg a menter na sy’n bosibl i weision sifil ei wneud.
“Wrth gwrs, byddai corff hyd braich yn rhyw fath o gwango, ond byddai e mewn sefyllfa i allu arwain yn fwy eglur ac eofn o ran yr angenrheidiau wrth gynllunio iaith.”
“Cynlluniau pellgyrhaeddol”
Mae Heini Gruffudd yn nodi bod angen ystyried y meysydd yng ngolau gweledigaeth y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae pob math o faterion yn galw am sylw,” meddai.
“Ond yn benodol rhaid meddwl, sut ydyn ni’n mynd i ddatblygu gweithlu addysg digonol ar gyfer cael miliwn o siaradwyr?
“Does dim cynllun ar hyn o bryd ond i hyfforddi rhyw 50-100 o athrawon y flwyddyn yn yr iaith, ond mae’n rhaid inni hyfforddi rhai miloedd.
“Oherwydd y cyfyngiadau ariannol sydd ar y Llywodraeth, oherwydd Brexit neu Covid, rydyn ni’n gweld maes y Gymraeg wedi ei gyfyngu dro ar ôl tro.
“Felly mae angen mapio’r hyn sydd angen ei wneud yn y gwahanol feysydd, a gwneud yn siŵr bod cynlluniau pellgyrhaeddol iawn yn digwydd.”