Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cefnogi cynlluniau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus yn y dref.
Mewn cyfarfod cabinet a gynhaliwyd ddydd Mercher, 10 Tachwedd, cytunodd y cabinet i ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) presennol y cyngor ac ychwanegu ardaloedd newydd at y gorchymyn i helpu i wneud i’r cyhoedd deimlo’n fwy diogel.
Bydd yr ardaloedd canlynol yn cael eu hychwanegu at y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd:
- Gorsaf Reilffordd Hengoed
- Birchgrove, Tirphil
- Maes Parcio Llyfrgell Rhymni
- Parc Eco Cefn Fforest a Phengam
- Gorsaf Reilffordd Crosskeys
- Ffordd Rhisga, Crosskeys
Tair blynedd yw uchafswm hyd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, a dyna pam mae’r cyngor yn adnewyddu’r un presennol.
Mae’r ychwanegiadau’n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gyflwynwyd gan Bwyllgor Craffu Amgylchedd a Chynaliadwyedd y cyngor – y cytunodd 87% o’r ymatebwyr ato y dylid ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol am dair blynedd arall a chytunodd 96% y dylid ychwanegu ardaloedd ychwanegol.
Dywedodd trigolion eu bod am i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus gynnwys yr ardaloedd ychwanegol i fynd i’r afael â phroblemau yfed alcohol a loetran.
O dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, mae’n drosedd i unigolyn barhau i yfed alcohol os y cawn nhw rybudd i stopio gan swyddog awdurdodedig.