Bydd Cynghorwyr Sir Benfro yn pleidleisio ar gynyddu trethi ar ail gartrefi heddiw, 14 Hydref.
Ers 2017, mae perchnogion ail gartrefi yn y sir yn talu premiwm o 50% ar ben y dreth gyngor arferol, ond mae argymhelliad newydd yn awgrymu y dylid codi’r premiwm hwnnw i 100%.
Fe wnaeth aelodau cabinet y Cyngor gynnig yr argymhelliad ar ôl ymgynghoriad ar y mater, gan ddechrau ym mis Mehefin.
Byddan nhw hefyd yn cadw’r premiwm cartrefi gwag presennol, sydd eisoes yn 100%.
Ar hyn o bryd, sir Benfro sydd â’r gyfradd uchaf ond un o ail gartrefi neu gartrefi gwag yng Nghymru.
Mae cynghorau Gwynedd ac Abertawe eisoes wedi cynyddu’r dreth ychwanegol i 100% mewn ymateb i bryderon yn eu siroedd nhw.
Cynyddu premiwm treth ar ail gartrefi o 50% i 100% yng Ngwynedd
Penderfyniad y cabinet
Fe gymeradwyodd aelodau cabinet Cyngor Sir Benfro’r argymhelliad mewn cyfarfod rhithiol ddydd Llun, 4 Hydref.
Bryd hynny, dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister (Democratiaid Rhyddfrydol) wrth ei gyd-aelodau fod ail gartrefi wedi creu “problem gymdeithasol ddifrifol” ac mewn rhai cymunedau arfordirol roedd 40% o’r stoc tai yn ail gartrefi.
“Yn dilyn ein hymgynghoriad cyhoeddus, cyfarfu’r Cabinet y bore yma, 4 Hydref, a fe wnes i argymell cynnydd o 50 [pwynt canran] yn y gordal ail gartref i’r Cyngor llawn, a chafodd ei gymeradwyo,” meddai.
“Er bod pobol o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig yn ei chael hi’n gymharol hawdd fforddio eiddo yn Sir Benfro, mae’n llawer anoddach i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn lleol.
“Mae cyfran uchel o ail gartrefi mewn cymuned hefyd yn fygythiad i hyfywedd ysgolion lleol a chyfleoedd i feithrin a thyfu’r Gymraeg.”
Dim ond un aelod o’r cabinet, Tessa Hodgson (nad yw’n cynrychioli unrhyw blaid ar y cyngor), bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, gan ddweud ei bod yn ofni sgil-effeithiau “anfwriadol” y polisi. Aeth ymlaen i gwestiynu a oedd teuluoedd a phobol ifanc wir eisiau byw mewn ardaloedd arfordirol, gwledig ac ynysig.
Cododd bryderon hefyd y byddai mwy o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu tai fel busnesau ac felly osgoi’r cynnydd.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo heddiw, y bwriad yw cyflwyno’r newidiadau erbyn mis Ebrill 2022, a byddai’r arian ychwanegol sy’n cael ei gasglu yn cael ei rannu 75/25 rhwng datblygu cartrefi fforddiadwy a chronfa gwella Sir Benfro.