Y bleidlais i ethol Prif Weinidog nesaf Cymru wedi cau
Fydd yr ennillydd ddim yn dechrau yn ei rôl yn syth, gan fod angen cynnal pleidlais yn y Senedd a derbyn sêl bendith Brenin Lloegr yn gyntaf
Galw am drafodaeth ynghylch dyfodol pont droed boblogaidd a phwysig
“Mae pentref Trawsfynydd yn gryf o’r farn fod cau’r bont yn cael effaith andwyol,” meddai Liz Saville Roberts
Yr ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru yn dod i ben
Mark Drakeford oedd yr olaf i roi tystiolaeth gan gyfaddef nad oedd ‘wedi cael popeth yn iawn’
Dŵr Cymru yn gorfod talu bron i £40m mewn iawndal am gamarwain Ofwat
Y cwmni dŵr wedi cam-adrodd ffigurau a chamarwain ynglŷn â gollyngiadau
Gruff Rhys yn un o dros 80 i dynnu allan o ŵyl gerddoriaeth dros gysylltiadau gyda’r diwydiant arfau
Dywedodd prif leisydd y Super Furry Animals ei fod yn gwrthwynebu cysylltiad yr ŵyl yn Tecsas gyda’r rhyfel yn Gaza
Mudiad heddwch yn galw ar fusnesau i beidio â chyflenwi arfau i Luoedd Amddiffyn Israel
Mae Cymdeithas y Cymod eisiau sicrhau nad yw busnesau yng Nghymru’n gallu gwneud elw o’r rhyfel yn Gaza
Ymddygiad Rhys ab Owen “yn llawer is na’r safon a ddisgwylir”
Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru wedi ymddiheuro yn dilyn cwynion am ei ymddygiad yn ystod noson allan
Ysgrifennydd Cymru yn disgrifio Wrecsam fel rhan o “dde Cymru” yn Nhŷ’r Cyffredin
“Dylai Ysgrifennydd Cymru dreulio llai o amser yn rhefru a mwy o amser yn gwella’i afael ar ddaearyddiaeth y wlad y mae’n ei chynrychioli”
Gorfodi terfyn cyflymder ar lonydd 20mya newydd
Naw o bobol gafodd eu herlyn am oryrru ar ffyrdd 20mya newydd ym mis Ionawr a Chwefror, am iddyn nhw wrthod cymryd cwrs deng munud yn lle pwyntiau