Anghydfod rhwng Plaid Cymru a changen leol “tu hwnt i gyfaddawdu”
Mae nifer wedi ymddiswyddo o fwrdd etholaeth Caerffili yn sgil honiadau o fwlio a chamymddwyn, a bu un yn siarad â golwg360
Rhoi dewis i gleifion yng Ngwent rhwng gohebiaeth Gymraeg neu Saesneg
Mae hyn yn rhan o adolygiad o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn y bwrdd iechyd
Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru i Hywel Gwynfryn
Ac yntau’n ddarlledwr, saer geiriau ac awdur dylanwadol, mae modd gweld, clywed a theimlo’i ôl ym mhob agwedd ar ddiwylliant poblogaidd Cymru
Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo’r Gweinidog Newid Hinsawdd o ddiffyg diddordeb mewn ynni niwclear
Ymateb Julie James oedd nad yw’r mater yn rhan o’i phortffolio, ond ei bod hi wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig …
Pwysau ar Uned Mân Anafiadau’n “effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel”
Mae’r heriau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn “arwain at risg uwch i gleifion”, medd arolygwyr
Yr Urdd yn agor pedwerydd gwersyll – a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru
Gwersyll Amgylcheddol a Lles Pentre Ifan yw’r bedwaredd ganolfan i agor ei drysau yn enw’r Urdd
Cyfraddau absenoldeb ysgolion heb wella ers Covid
Bydd Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n arwain at absenoldeb
‘Rhaid gwneud newidiadau i’r gwasanaeth tân yn y gogledd er mwyn achub bywydau’
Mae Awdurdod Tân ac Achub y Gogledd yn gwrthod honiad bod y trafodaethau’n cuddio pryderon y gwasanaeth am brydlondeb yn sgil y cyfyngiadau …
Terfyn 20 m.y.a. yn “creu amodau gweithredu heriol”, medd cwmni bysiau
Mae Arriva yn dweud bod angen adnoddau ychwanegol a rhai newidiadau i’r amserlen er mwyn gwella prydlondeb
Cyflog athrawon llanw “wedi newid yn llwyr” ers gorfod gweithio drwy asiantaethau
Dywedodd un athrawes yn Wrecsam bod ei chyflog fesul diwrnod wedi gostwng 20% ers i ysgolion yno orfod dod o hyd i athrawon llanw drwy asiantaethau