Agent provocateur wedi ceisio denu Dafydd Iwan at ‘gynllwyn’ i ladd Tywysog Charles

Yn ei hunangofiant newydd, mae Dafydd Iwan yn datgelu bod hyn wedi digwydd yn ystod y cyfnod cyn yr Arwisgo yng Nghastell Caernarfon

Mynd i’r afael â chwmnïau cynhyrchu sy’n agor swyddfeydd dros dro yng Nghymru i ennill comisiynau

Cafodd argymhelliad i ofyn i gorff Ofcom ystyried a ydyn nhw’n gwneud digon i reoleiddio’r arfer ei wneud gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin
Logo Radio Cymru

Synfyfyrion Sara: Ceffylau a bidogau? Beth mae ffigyrau diweddar radio Cymru wir yn ei ddangos?

Dr Sara Louise Wheeler

Golwg360 sy’n mynd ati i craffu rhywfaint ar ffigyrau ‘cyrhaeddiad wythnosol’ gwrandawyr

Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym heddiw (dydd Llun, Hydref 30)

O heddiw (dydd Llun, Hydref 30), fydd dim modd gwerthu ystod o eitemau sy’n dod mewn pecynnau plastig untro

Straeon arswyd Llwybr yr Arfordir

Wrth i Galan Gaeaf agosáu, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi casglu ambell stori i oeri’r gwaed

Pasbort i ymweld â threftadaeth Cymru

“Dechreuwch yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru” yw neges Llywodraeth Cymru yr wythnos hon (Hydref 28 – Tachwedd 5)

Dau o bobol wedi’u harestio yn dilyn protest Gaza yng Nghaerdydd

Cafodd graffiti ei baentio ar adeilad y BBC yn y brifddinas ddydd Sadwrn (Hydref 28)

Beirniadu Lee Waters am awgrymu bod angen adolygu mwy o derfynau cyflymder

Bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn gorfodi’r terfyn ar ffyrdd sydd eisoes wedi eu gwneud yn rhai 20 m.y.a.

Plismona protestiadau Gwesty Parc y Strade wedi costio oddeutu £300,000

Richard Youle (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, am geisio cael yr arian yn ôl gan y Swyddfa Gartref