Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn anghydweld “ar lefel sylfaenol” tros oblygiadau’r brechlynnau i Brydain.
Dyna ddywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw.
Holwyd am eglurder ynghylch sut y bydd busnesau Cymru yn cael eu cefnogi wedi mis Mawrth – mae’n bosib y bydd cronfa i fusnesau yn cael ei ymestyn ymhellach ond does dim sicrwydd o hynny.
Wrth ateb y cwestiwn, eglurodd Lee Waters bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i ddarparu cymorth ariannol, ond bod hynny’n dibynnu yn rhannol ar benderfyniadau yn Llundain.
Llywodraeth y DU ‘am roi diwedd ar y cymorth ariannol’
Aeth ati wedyn i amlinellu’r agweddau gwahanol yng Nghaerdydd ac yn Whitehall.
“Y broblem sylfaenol fan hyn yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu y bydd yr economi yn dychwelyd i ffurf normal yn gyflym yn sgil y brechu,” meddai.
“Ac mae’n credu y bydd hi yna yn medru rhoi diwedd ar y cymorth ariannol. Rydym yn anghytuno â nhw ar hyn ar lefel sylfaenol.
“Rydym ni’n credu y bydd angen cynnal lefel o gymorth ac ysgogiad ariannol hyd at y dyfodol, ac am gyfnod sylweddol o amser.”
“Dw i ddim yn gwadu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi’n sylweddol hyd yma,” meddai yn ddiweddarach.
“Ond ni ddylid rhoi diwedd ar hynny jest am fod y brechlyn gyda ni.
“Mae’n glir i bawb, dw i’n credu, y bydd yn rhaid codi’r cyfyngiadau yn araf deg, a bod hyder busnesau a gweithgarwch economaidd yn mynd i aildanio fesul cam.
“A bydd yn rhaid i’r cymorth sydd ar gael gyd-fynd â hynny.”
Dim llacio mawr ar y gorwel
Yn ddiweddarach ddydd Mercher pwysleisiodd Vaughan Gething y dylem ni beidio â disgwyl unrhyw lacio mawr i’r rheolau covid yn y dyfodol agos.
Roedd y Gweinidog Iechyd yn hynod bositif am sefyllfa’r pandemig yng Nghymru, ac mi ddywedodd bod “pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir”.
Ond ategodd “[na] ddylai pobol ddisgwyl llacio sylweddol o reolau pan fyddwn yn adolygu’r drefn yn ystod trydedd wythnos mis Chwefror.”
Cynhadledd i'r Wasg byw gyda'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething | Live Press Conference with Health Minister Vaughan Gething https://t.co/n4Svm7U9LG
— Welsh Government #StayHome? (@WelshGovernment) February 3, 2021