Rhybudd am groesawu mewnfudwyr i Quebec sy’n methu siarad Ffrangeg
Daw rhybudd Francois Legault, arweinydd Quebec, ar drothwy etholiadau taleithiol ddechrau’r wythnos nesaf
Arlywydd Catalwnia eisiau i’r llywodraeth barhau
Os na fydd modd dod i gytundeb, mae disgwyl i un o bleidiau’r glymblaid droi at eu haelodau i wneud penderfyniad ynghylch y dyfodol
Mick Antoniw yn condemnio refferenda honedig yn Luhansk, Donetsk, Zaporizhzhia a Kherson
“Mae’r canlyniadau wedi cael eu penderfynu ymlaen llaw a does ganddyn nhw ddim dilysrwydd mewn cyfraith ryngwladol”
Arlywydd Catalwnia’n diswyddo’i ddirprwy
Bydd y rôl yn wag hyd nes bod Junts per Catalunya yn penodi olynydd i Jordi Puigneró
‘Y rhan fwyaf o strydoedd Tehran yn llwyfan ar gyfer y gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r bobol’
“Allan o’r tristwch yma, dw i wir yn gobeithio y bydd yna newid a dw i’n meddwl mai dyna yw gobaith pobol Iran hefyd,” medd cantores …
Awstria’n dychwelyd gweddillion pobol frodorol Seland Newydd yn sgil cytundeb hanesyddol rhwng y ddwy wlad
Bydd gweddillion oddeutu 64 o bobol yn cael eu symud i amgueddfa yn Wellington ar ôl bod mewn amgueddfa yn Fienna
Catalwnia yn troi at Quebec am ysbrydoliaeth ar gyfer amodau refferendwm annibyniaeth
Rhaid bod mwyafrif o blaid cynnal refferendwm, cwestiwn clir a chydsyniad gan y senedd
Catalwnia a Kyiv yn magu perthynas ddiwylliannol
Daeth arweinwyr ynghyd yn Barcelona ddoe (dydd Sadwrn, Medi 24) i ffurfioli’r bartneriaeth
Picton neu Waitohi?
Mae cynghorydd yn Seland Newydd dan y lach gan rai ar ôl awgrymu newid enw tref
Ceisio statws swyddogol i’r ieithoedd Catalaneg, Basgeg a Galiseg yn Siambr yr Undeb Ewropeaidd
Mae Llywodraeth Sbaen wedi anfon llythyr yn gofyn am ganiatâd i siarad yr ieithoedd hynny’n swyddogol