Mae cynghorydd lleol yn Seland Newydd yn dweud ei fod e wedi cael ei feirniadu gan rai, ar ôl awgrymu newid enw tref Picton i’w enw Māori gwreiddiol, Waitohi.
Yn ôl David Oddie, sydd wedi’i ddyfynnu gan wasg Seland Newydd, fe wnaeth nifer o bobol “stopio siarad” â fe ar ôl iddo fe dynnu sylw at gysylltiadau negyddol yr enw, gyda Thomas Picton yn fasnachwr caethweision.
Fe fu trafodaethau tebyg ledled Cymru mewn llefydd sy’n dwyn ei enw.
Mae David Oddie yn rhoi’r gorau i’w rôl fis nesaf, ond yn dweud y bydd pobol eraill ar ei ôl e’n cael y drafodaeth hon.
“Dw i wedi chwarae fy rhan yn y gorffennol yn hyn o beth ac o ran a fydden ni’n gallu sicrhau newid yr enw, ond dw i’n hapus iawn i gael dau enw,” meddai.
Yn ôl yr hanesydd Mike Taylor, sydd wedi ysgrifennu am hanes Waitohi a Syr Thomas Picton, yn dweud bod yna gonsensws cynyddol y dylid newid yr enw.
“Te Weranga o Waitohi fuodd e erioed, mae wedi’i adnabod fel Cwm Waitohi erioed ac felly mae e,” meddai.
“Roedd [Picton] yn arfer lladd menywod a phlant, dydy e erioed wedi troedio tir y wlad.
“Nid dim ond Māori sydd eisiau ei newid e, ond pobol o’r gymuned gyfan.”
Er mwyn newid enw tref neu ddinas yn Seland Newydd, mae’n rhaid ceisio cefnogaeth yr awdurdod lleol ac yna, fe fydd Bwrdd Daearyddol Seland Newydd yn ystyried y cais.