Mae Llywodraeth Sbaen wedi gofyn am ganiatâd i gael defnyddio’r ieithoedd Catalaneg, Basgeg a Galiseg yn swyddogol yn Siambr yr Undeb Ewropeaidd.
Yn eu llythyr, mae’r llywodraeth wedi cynnig talu am gyfieithwyr ar y pryd ac i arwain ar y trafodaethau ynghylch pryd fydd modd gwneud hyn.
Daw hyn yn dilyn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf rhwng Natàlia Garriga, gweinidog diwylliant Catalwnia, ac Isabel Rodríguez, un o weinidogion Sbaen.
Nod y trafodaethau oedd cynyddu tryloywder a chyfranogiad dinasyddion, gyda’r naill hefyd yn gofyn i’r llall i’w gwneud hi’n bosib i siaradwyr Catalaneg i allu ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus Sbaen yn eu hiaith eu hunain.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o bynciau trafod rhwng Sbaen a’r gweinyddiaethau eraill, gyda Llywodraeth Sbaen eisoes yn addo gwarchod a hybu’r Gatalaneg yn Sbaen a thramor.
Fe fu pleidiau gwleidyddol yn galw ers tro am yr hawl i ddefnyddio’u hiaith yn eu busnes swyddogol, yn dilyn blynyddoedd o orfod cynnal trafodaethau yn Sbaeneg.
Cyn-frenin dan y lach
Yn y cyfamser, mae Juan Carlos, cyn-frenin Sbaen, dan y lach ar ôl mynd i angladd Elizabeth II, Brenhines Lloegr, heddiw (dydd Llun, Medi 19).
Yn ôl un o bleidiau Sbaen, mae’n “droseddwr ar ffo”.
Mae’r Brenin Felipe a’i wraig, y Frenhines Letizia, yn arwain gwahoddedigion o Sbaen yn yr angladd, ac mae lle i gredu bod y cyn-frenin wedi derbyn gwahoddiad preifat fel unigolyn yn hytrach na fel rhan o’r criw swyddogol.
Camodd y cyn-frenin o’r neilltu yn 2014 yn dilyn sawl sgandal, ond mae e wedi derbyn gwahoddiad i’r angladd fel perthynas o bell i Elizabeth II.
Mae e bellach yn byw’n alltud yn Abu Dhabi ar ôl i erlynwyr honni ei fod e’n euog o dwyll yn Sbaen a’r Swistir, ond daethpwyd â’r achos i ben yn y pen draw, er y gallai wynebu achos yn y Deyrnas Unedig am aflonyddu honedig yn erbyn ei gyn-gariad.
Mae Juan Carlos ac Elizabeth II, ill dau, yn or-or-wyrion i’r Frenhines Victoria.