Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo traed” tros addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobol ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymunedau eu hunain.
Cynhaliodd y Gymdeithas rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llangefni ddydd Sadwrn (Medi 17) i dynnu sylw at y mater.
O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd gan gynghorau sir bwerau newydd i leihau effaith ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardaloedd, gyda thri dosbarth defnydd cynllunio newydd, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Bydd cynghorau sir yn gallu rheoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned, cynyddu treth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau, a mynnu caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall.
“Fe wnaethon ni gynnal rali yn Llangefni heddiw er mwyn lansio rhan nesaf ymgyrch Nid yw Cymru ar werth,” meddai Osian Jones yn dilyn y digwyddiad.
“Ein bwriad yw annog awdurdodau lleol fel Ynys Môn, Gwynedd, Conwy i ddefnyddio’r grymoedd newydd y mae Llywodraeth Cymru am gynnig iddynt i reoli ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn o fis Ebrill – ond dylai’r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau nawr.
“Mae ewyllys gwleidyddol o’n plaid a blwyddyn o ymgyrchu a phwysau gan bobol ar lawr wedi arwain at enillion allai wneud gwahaniaeth.
“Ond mae Llywodraeth Cymru’n llusgo eu traed – does dim canllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni’r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol eto.
“Bydd dosbarthu eiddo i gategorïau fel bod modd gweithredu’r cynnig pwysig o fynnu caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd yn waith sylweddol; fel y bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth am yr angen am ganiatâd cynllunio.
“Gallai’r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau.
“Roedden ni’n falch felly bod Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, y cynghorwyr sir Arfon Wyn (Ynys Môn) ac Aaron Wynne (Conwy) yn ychwanegu eu llais at yr alwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd y cynigion yn cael eu gweld fel addewidion gwag.”