Mae un o gynghorwyr sir Powys wedi cwyno wrth yr awdurdod am ddiffyg Cymreictod eu tîm addysg.

Mae tîm newydd wedi cael ei benodi yn lle’r tîm Ein Rhanbarth ar Waith blaenorol ond yn ôl Elwyn Vaughan, does neb ohonyn nhw’n siarad Cymraeg.

Mewn llythyr sydd wedi’i weld gan golwg360, dywed y cynghorydd nad oes gan “y mwyafrif helaeth ddim dealltwriaeth o’r Gymraeg”.

“Cododd sefyllfa’n ddiweddar lle aeth un o’r swyddogion i Ysgol Bro Hyddgen [ym Machynlleth],” meddai yn ei lythyr.

“Wrth fynychu dosbarth, oherwydd nad oedd hi’n deall yr athro, gofynnodd hi i’r disgyblion gyfieithu’r hyn gafodd ei ddweud.

“Ar y sail hwnnw, mae hi wedi gofyn i’r ysgol ers hynny i wella elfennau.

“All rywun ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, sut mae hyn yn ffordd dderbyniol o wneud pethau?

“Sut all fod yn iawn cyflogi pobol sy’n amlwg yn methu gwneud eu gwaith?

“Ble mae’r meddwl yn unedig? Ble mae dwyieithrwydd ar waith?

“Dydy’r fath ymddygiad ddim yn ddigon da, nid yw’n dderbyniol ar sawl lefel ac mae’n un o’r rhesymau niferus pam dw i’n gorfod atgoffa’r awdurdod hwn yn gyson o’i fethiannau.

“Mae angen newid agweddau sylfaenol ac rwy’n disgwyl gweld hynny ar unwaith.”

‘Hollol ddwyieithog’

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys sy’n Dysgu: “Ers diddymiad Ein Rhanbarth ar Waith, mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion fel rhan o Bartneriaeth Canolbarth Cymru.

“Mae’r bartneriaeth yn darparu model cefnogaeth hollol ddwyieithog ar gyfer pob ysgol ar draws y ddau Awdurdod Lleol ymhob sector.

“Mae gan Bartneriaeth Canolbarth Cymru rhan lawn yn yr holl waith rhanbarthol a chenedlaethol fel rhan o fodel Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ysgolion, dysgu proffesiynol a chefnogaeth i’r cwricwlwm, ac mae’n gallu darparu’r gefnogaeth honno yn y ddwy iaith.”