Mae tri o raddedigion Prifysgol y Drindod yn Nulyn wedi creu teclyn sy’n helpu pobol i ddysgu’r iaith Wyddeleg trwy ddysgu mwy am gyd-destun y geiriau.

Trwy blethu geiriau Gwyddeleg mewn brawddegau Saesneg, mae’n galluogi pobol i ddysgu mwy am gyd-destun y geiriau a sut mae eu defnyddio nhw mewn brawddegau a dyma sut y bydd modd i ddefnyddwyr Weeve fynd ati i ddysgu’r Wyddeleg.

Yn ôl Evan McGloughlin, cyd-sylfaenydd a phrif weithredwr Weeve, bydd y teclyn yn gweddnewid y ffordd mae pobol yn dysgu ieithoedd.

Mae e, Oisín Morrin a Cian McNally yn cyd-adeiladu peiriant cyfieithu sy’n gallu plethu dwy iaith ar sail yr hyn maen nhw’n ei alw’n hanner canrif o dystiolaeth fod y dull hwn yn llwyddiannus.

Mae’r ap yn cynnig testunau clasurol – o weithiau Stephen Hawking i hunangofiant Will Smith – ond mae rhai geiriau wedi’u newid yn y Saesneg gwreiddiol, gyda geiriau Gwyddeleg neu iaith arall yn eu disodli nhw.

Y syniad a’r gobaith yw y bydd gweddill y testun yn gwneud synnwyr, hyd yn oed os nad yw’r gair sydd wedi’i newid yn ddealladwy.

Yn ôl y tri, mae’r ymennydd yn deall cyd-destun yn gyntaf ac yna’r eirfa benodol ac mae hynny’n golygu na fydd angen dibynnu ar y cof yn unig.

Mae’r teclyn yn galluogi’r darllenwyr i newid ac addasu safon yr eirfa yn ôl yr angen, ac mae’n targedu pobol broffesiynol ifanc yn bennaf wrth iddyn nhw chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu ieithoedd o gwmpas eu hamserlenni prysur.

Y gobaith yn y pen draw yw y bydd modd ychwanegu mwy o ieithoedd.

Wrth i’r cwmni dyfu, mae disgwyl i’r tri symud eu gwaith i Barcelona o ganlyniad i gostau byw uchel yn Nulyn, ond maen nhw hefyd yn cydnabod cefnogaeth y gymuned Wyddeleg wrth sefydlu’r cwmni.