Mae’r papur newydd The Times yn dweud bod Caerdydd “fel tref anghyfannedd” yn ystod angladd Brenhines Lloegr heddiw (dydd Llun, Medi 19).
Bu farw Elizabeth II yn 96 oed yn ddiweddar, ac mae ei hangladd yn cael ei gynnal mewn sawl lleoliad yn Llundain yn ystod y dydd.
Cafodd gwasanaeth angladd gwladol ei gynnal yn Abaty Westminster yn ystod y bore, tra bydd gwasanaeth hefyd yng nghastell Windsor, cyn i’r teulu brenhinol fynd i wasanaeth preifat yn ddiweddarach.
Roedd aelodau o’r teulu brenhinol wedi bod yn teithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn y dyddiau cyn yr angladd, ac mae pobol wedi bod yn ciwio yn Llundain i weld arch y frenhines.
A thra bod pobol wedi bod yn aros ar strydoedd prifddinas Lloegr i weld yr angladd yn mynd heibio, roedd y darlun yn wahanol iawn ym mhrifddinas Cymru, yn ôl y papur newydd.
Cafodd heddiw ei ddynodi’n Ŵyl Banc yn sgil yr angladd, gydag archfarchnadoedd a gwasanaethau eraill yn cau eu drysau.
Cafodd apwyntiadau meddygol eu canslo, gyda byrddau iechyd hefyd yn canslo ymweliadau a thriniaethau.
“Roedd Caerdydd fel tref anghyfannedd cyn angladd y Frenhines,” meddai’r Times.
“Twristiaid oedd yr ychydig bobol oedd yn gwylio’r gwasanaethau mewn tafarnau yng nghanol y ddinas.
“Cymru yw’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig lle nad yw’r un cyngor yn sgrinio’r gwasanaeth yn gyhoeddus.”