Protestiadau yn India
Mae cyfreithiwr tri o ddynion sydd wedi eu cyhuddo o dreisio a lladd myfyrwraig yn New Delhi wedi dweud y byddan nhw’n pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.

Dywedodd Manohar Lal Sharma ei fod yn cynrychioli’r gyrrwr bws Ram Singh, ei frawd Mukesh Singh, a dyn arall, Akshay Thakur.

“Maen nhw’n ddieuog,” meddai Manohar Lal Sharma wrth iddo fynd i wrandawiad yn New Delhi.

Mae pump o ddynion wedi eu cyhuddo o ymosod ar y ddynes 23 oed a’i chyfaill ar y bws yn New Delhi ar 16 Rhagfyr. Bu farw’r ddynes o’i hanafiadau.

Mae’r achos wedi arwain at brotestiadau ar draws India a galwadau am well hawliau i ferched.

Fe allai’r pump wynebu’r gosb eithaf. Fe fydd achos chweched dyn, sy’n 17 oed, yn cael ei glywed mewn llys ieuenctid.