Michael Laudrup
Perfformiad y tîm cyfan oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth fawr Abertawe, yn ôl chwaraewr gorau’r gêm.

Roedd yr Elyrch wedi mynd i Stamford Bridge i wynebu Chelsea gyda chynllun pendant ac wedi cadw ato, meddai capten y tîm, Ashley Williams ar ôl y fuddugoliaeth o 2-0.

Ond roedd yn rhybuddio pawb rhag bod yn orhyderus – dim ond y cymal cynta’ oedd hon yn rownd gyn derfynol Cwpan Captial One, meddai, ac roedd Chelsea’n siŵr o geisio taro’n ôl yn yr ail gymal yn y Liberty bythefnos i ddoe.

‘Perfformiad tîm

Yr amddiffynnwr a gafodd y botel siampên am fod y chwaraewr gorau, ond roedd yntau’n pwysleisio cyfraniad y gweddill hefyd.

“Roedd yn berfformiad ardderchog gan y tîm,” meddai. “Fe wnaethon ni amddiffyn ac ymosod yn wych fel tîm. Fe wnaethon ni hi gyda’n gilydd.”

Roedd y rheolwr, Michael Laudrup, hefyd yn canmol gallu’r chwaraewyr i gadw at eu cynllun wrth wynebu pencampwyr Ewrop.

“Roedden ni’n gwybod bod rhaid i ni wneud rhagor,” meddai. “Roedden ni’n gwybod bod rhaid gwneud rhagor heb y bêl. Yn ogystal â sgiliau da, mae gyda ni hyder hefyd.”