Chelsea 0–2 Abertawe
Mae Abertawe hanner ffordd i Wembley ar ôl curo Chelsea yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn Stamford Bridge nos Fercher.
Er i’r tîm cartref lwyr reoli’r meddiant trwy gydol y gêm fe fanteisiodd Abertawe ar ddau gamgymeriad gan amddiffynnwr Chelsea, Branislav Ivanovic, i gipio dwy gôl yn erbyn llif y chwarae. Rhwydodd Miguel Michu ychydig funudau cyn yr egwyl cyn i’w eilydd, Danny Graham, sgorio’r ail yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Cafodd gôl-geidwad yr Elyrch, Gerhard Tremmel, ei gadw’n brysur yn yr hanner awr agoriadol, yn arbed cynigion gan Ramires a Juan Mata. Ac ergydiodd Mata fodfeddi heibio’r postyn hefyd yn dilyn cyd chwarae da gydag Oscar.
Ond er gwaethaf rhagoriaeth Chelsea, Abertawe sgoriodd y gôl agoriadol saith munud cyn yr egwyl. Tynnodd Ivanovic ei lygad oddi ar y bêl gan adael i Jonathan de Guzman ddwyn y meddiant a galluogi Michu i grymanu’r bêl heibio i Josh Turnbull o ochr y cwrt cosbi.
Bu bron i Ivanovic wneud yn iawn am ei gamgymeriad yn fuan wedyn gydag ergyd isel o bellter ond llwyddodd Tremmel i arbed.
Dechreuodd yr ail hanner gyda Chelsea yn rheoli eto ond roedd Tremmel ar flaenau’i draed o hyd, yn atal David Luiz gydag arbediad da toc cyn yr awr.
Cafodd ail gôl i Michu ei gwrthod gan ei fod yn camsefyll chwarter awr o’r diwedd a chafwyd penderfyniad dadleuol iawn yn y pen arall ym munud olaf y naw deg. Roedd Chelsea yn meddwl eu bod yn haeddu cic o’r smotyn pan gafodd Ba ei lorio gan Tremmel yn y cwrt cosbi ond y blaenwr a gafodd ei gosbi am blymio.
Penderfyniad braidd yn ffodus i Abertawe o bosib ond fe gymerodd y Cymry fantais llawn funud yn ddiweddarach, wrth i Graham ryng-gipio pas wan Ivanovic yn ôl at Turnbull, cyn curo’r gôl-geidwad ac anelu’r bêl i rwyd wag.
Dwy i ddim i Abertawe felly a mantais iach iawn i’r Elyrch cyn yr ail gymal yn ne Cymru mewn pythefnos.
.
Chelsea
Tîm: Turnbull, Ivanovic, Cole, David Luiz, Cahill, Azpilicueta, Ramires (Lampard 71’), Mata, Oscar (Marin 83’), Hazard, Torres (Ba 81’)
Cerdyn Melyn: Ba 90’
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu (Graham 83’), Pablo, Routledge (Tiendalli 62’), De Guzman, Ki Sung-Yeung
Goliau: Michu 39’, Graham 90’
Cardiau Melyn: Pablo 42’, Chico 48’,
.
Torf: 40,172