George North
Gall yr asgellwr George North gael ei ystyried ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ar ôl dychwelyd i ymarfer gyda’r Sgarlets.

Gyda nifer o’r chwaraewyr allan yn barod o’r Bencampwriaeth, bydd presenoldeb North yn hwb i Gymru a’r rhanbarth o’r Gorllewin.

Cafodd North ei gludo oddi ar y cae yn ystod y golled yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos Wener ddiwethaf.

Mae yna amheuon ynglŷn â’i ffitrwydd, ond nid yw’r rhanbarth am fentro ar North nes ei fod yn holliach.

‘‘Os oes yna unrhyw berygl, ni fyddwn yn ei ddewis (George North).  Mae’n rhaid i ni wybod ei fod yn 100%.  Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ei ôl,’’ meddai rheolwr y Sgarlets, Simon Easterby.