Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi gwadu unrhyw sôn bod Danny Graham a’r fin ymuno â Sunderland.

Yn ôl adroddiadau, cafodd yr ymosodwr brawf meddygol ddydd Mawrth cyn iddo symud i Sunderland, ac wedi dweud ffarwel wrth ei gyd chwaraewyr.

Nid yw Graham wedi chwarae yn rheolaidd i Abertawe yn ystod y tymor hwn.  Graham sgoriodd ail gôl Abertawe Ddydd Sul wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn y Cwpan yn erbyn Arsenal.

‘‘Rwy’n gwybod y byddwch yn fy holi trwy gydol y mis am y cwestiwn hwn, ond rwy’n credu bod y gêm yn erbyn Chelsea mor bwysig i ni na ddylem drafod  unrhyw beth ar wahân i Chelsea.

“Mae’n gêm enfawr i’r chwaraewyr, ar gyfer y clwb, ar gyfer pob un ohonom,’’ meddai  Michael Laudrup.