Kevin Pietersen
Sicrhaodd cricedwr Kevin Pietersen ei le yng ngharfan Lloegr heddiw, wedi rhai misoedd o ansicrwydd dros ei ddyfodol.

Arwyddodd Pietersen gytundeb llawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn dilyn cyfnod allan o’r tîm.  Collodd ei le am yrru negeseuon amhriodol i chwaraewyr eraill am y cyn-gapten, Andrew Strauss.  Ond nawr, yn dilyn cyfnod o ‘integreiddio’ yn ôl mewn i’r tîm, gall chwarae eto.

Mae’r newyddion yn dilyn perfformiad da gan Pietersen yn y gemau prawf yn erbyn India, lle enillodd Lloegr am y tro cyntaf yn India ers bron i 20 mlynedd.  Sgoriodd Pietersen 338 dros y gyfres i gyd, gan gynnwys batiad o 186 yn yr ail gêm.

Dywedodd cyn-chwaraewr a hyfforddwr y tîm, Ashley Giles: “Mae Kevin nawr yn aelod llawn o’r tîm unwaith eto.  Mae’n newyddion gwych.  Beth bynnag ddigwyddodd yn 2012, rydyn ni’n symud ymlaen i flwyddyn newydd.”