Mae’r pêl-droediwr o Gymru Craig Davies heddiw wedi cwblhau ei symudiad o Barnsley i Bolton Wanderers. Bydd y cytundeb newydd yn cadw Davies, sydd wedi chwarae dros Gymru 6 o weithiau, gyda Bolton tan 2015.
Chwaraeodd Davies 52 o weithiau dros Barnsley, gan sgorio 19 o goliau, gan gynnwys 9 yn y Bencampwriaeth y tymor yma.
Wrth drydar heddiw, diolchodd i bawb yng nghlwb Barnsley am roi croeso iddo. “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o Barnsley, y cefnogwyr, y bwrdd rheoli a’r aelodau o staff am eu cefnogaeth tra ro’n i yna,” meddai. “Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn rai o’r goreuon o’m gyrfa, a hynny oherwydd y croeso gefais gan y clwb”.
Wedi ei eni yn Burton-upon-Trent, dechreuodd Davies ei yrfa gyda Manchester City, ac ers hynny mae wedi cael nifer o gyfnodau llwyddiannus gyda Wolverhampton Wanderers, Oldham Athletic a Chesterfield, cyn ymuno â Barnsley.