Mae Gleision Caerdydd wedi derbyn hwb pellach gyda’r newyddion y bod prop rhyngwladol Scott Andrews wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb gyda’r rhanbarth.

‘‘Rydym wedi cael dechreuad digon anodd i’r tymor, ond mae yma grŵp da o fechgyn yma ac mae pethau’n edrych yn gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, rwyf yn falch i aros yma.  Rwyf wedi bod gyda’r Gleision ers yn 16 a doeddwn i ddim eisiau edrych am unman arall gan fy mod yn hapus gyda’r Gleision’’, meddai Andrews.

Hefyd mae’r Gleision wedi cadarnhau bod y rheng ôl Josh Navidi wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gleision a fydd yn cadw ef gyda’r rhanbarth nes 2016.

‘‘Rwy’n hapus gyda’m perfformiadau ar gyfer y Gleision cyn belled, ond rwyf am gadw i wthio fy hun i weld sut y gallaf wella fel chwaraewr.”