Fe fydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Bayonne yng Nghwpan Amlin nos yfory.
Os ydyn nhw’n fuddugol, bydd y Dreigiau yn gymwys i’r gystadleuaeth y tymor nesaf.
Bydd y Dreigiau yn gobeithio am yr un llwyddiant yn dilyn eu perfformiad y tro diwethaf yn erbyn Bayonne yn Rodney Parade.
Ni fydd y blaen asgellwr Tom Brown na’r asgellwr Tonderai Chavhanga yn chwarae oherwydd anafiadau a gawson nhw yn ystod y gêm yn erbyn Connacht yr wythnos ddiwethaf.
Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C a Sky Sports.
Carfan y Dreigiau
Blaenwyr – Nathan Williams, Owen Evans, Hugh Gustafson, Sam Parry, Nathan Buck, Tim Ryan, Rob Sidoli, Adam Jones, Andrew Coombs, Jevon Groves, Lewis Evans, Ieuan Jones, Toby Faletau, Nic Cudd.
Olwyr – Jonathan Evans, Wayne Evans, Lewis Robling, Steffan Jones, Ashley Smith, Andy Tuilagi, Jack Dixon, Adam Hughes, Will Harries, Mike Poole, Tom Prydie.