Lance Armstrong
Bydd Lance Armstrong yn siarad ar goedd am y tro cyntaf yr wythnos nesaf am yr honiadau ei fod wedi cymryd cyffuriau i hybu ei berfformiad.

Mae’r Americanwr wedi colli ei hawl i saith teitl Tour de France a bydd yn cael ei gyfweld ar raglen Oprah Winfrey ar ddydd Iau, Ionawr 17.

Mae’r New York Times wedi adrodd fod y seiclwr 41 oed yn ystyried cyfaddef fod yr honiadau am gyffuriau yn wir. Daeth Asiantaeth Wrthgyffuriau’r Unol Daleithiau i’r casgliad fod Armstrong a thîm US Postal Service wedi “rhedeg y rhaglen gyffuriau fwyaf soffistigedig, proffesiynol a llwyddiannus mae’r gamp erioed wedi ei gweld.”

Nid oedd y gŵr o Texas wedi cydweithio gydag ymchwiliad yr asiantaeth, ni apeliodd y dyfarniad a chyfweliad Oprah Winfrey fydd ei sylw cyhoeddus cyntaf ar y mater.