Michael Laudrup
Bydd heno’n noson bwysig i dîm pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw herio Chelsea yng nghymal cyntaf  rownd gyn derfynol y gystadleuaeth Capital One yn Stamford Bridge.

Mae Michael Laudrup wedi cadarnhau y bydd Gerhard Tremmel yn dechrau yn safle’r gôl geidwad ac mae disgwyl y bydd Pablo Hernandez a Michu yn  dychwelyd i’r tîm.

Mae Laudrup yn credu y gall yr Elyrch gyrraedd Wembley, ond yn gyntaf rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar sgorio heno i roi cyfle iddyn nhw pan fydd ail gymal y gystadleuaeth yn y Liberty.

‘‘Mae’n rhaid i ni fynd yno a derbyn mwy neu lai y bydd ganddyn nhw lawer mwy o feddiant y bêl a bydd rhaid i ni amddiffyn yn dda.  Ond hefyd bydd yn rhaid cofio bod angen gôl arnom,’’ meddai Laudrup.