Alfreton 1–2 Wrecsam


Cododd Wrecsam i frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Alfreton yn North Street nos Fawrth. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith i’r Dreigiau chwarae bron i hanner y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Danny Wright.

Rhoddodd Neil Ashton yr ymwelwyr ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr cyn i Ben Tomlinson unioni pethau i’r tîm cartref cyn yr egwyl. Ond deg dyn y Dreigiau aeth â hi yn y diwedd diolch i gôl Joe Clarke chwarter awr o’r diwedd.

Daeth y gôl gyntaf pan beniodd Ashton groesiad Robert Ogleby i gefn y rhwyd ond unionodd Tomlinson i Alfreton toc wedi’r hanner awr gydag ergyd gadarn heibio i Joslain Mayebi.

Derbyniodd Wright ei gerdyn melyn cyntaf bedwar munud cyn yr egwyl cyn derbyn ail wedi pedwar munud o’r ail hanner am drosedd ar Leigh Franks.

Y Dreigiau yn gorfod chwarae bron i hanner y gêm gyda deg dyn felly ond wnaeth hynny ddim stopio Clarke rhag cipio’r tri phwynt gyda gôl unigol dda wedi 75 munud.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i frig y tabl gan i gêm Grimsby yn Gateshead gael ei gohirio oherwydd y glaw.

.

Alfreton

Tîm: Barnes, Law (Taylor 84’), Franks, Streete, Killock, Brown, Meadows, Harriott (Bradley 84’), Clayton, Arnold, Tomlinson (Worsfold 77’)

Gôl: Tomlinson 33’

Cardiau Melyn: Meadows 50’, Streete 59’, Tomlinson 77’

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Cieslewicz 55’), Wright, Ogleby (Rushton 63’)

Goliau: Ashton 17’, Clarke 75’

Cardiau Melyn: Harris 32’, Wright 41’

Cerdyn Coch: Wright 49’

Torf: 628