Lionel Messi
Cafodd Lionel Messi ei enwi fel chwaraewr gorau’r byd pêl-droed neithiwr, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Curodd yr Archentwr ei gyd chwaraewr o Barcelona, Andres Iniesta, a blaenwr Real Madrid Cristiano Ronaldo, i gipio’r Ballon d’or- mewn seremoni yn Zurich.
Llwyddodd Messi, sy’n 25, i sgorio 91 o goliau yn 2012, gan dorri record nifer y goliau mewn blwyddyn.
Roedd Messi hefyd yn rhan o dîm gorau’r flwyddyn, a oedd yn cynnwys chwaraewyr o brif gynghrair Sbaen yn unig. Roedd 10 chwaraewr o Barcelona a Real Madrid, a Falcao o Atletico Madrid yn cipio’r safle olaf.
Hyfforddwr Sbaen, Vincente Del Bosque gafodd ei enwi yn hyfforddwr y flwyddyn, y cyfan yn dangos gwir gryfder pêl droed Sbaen ar hyn o bryd.
Yr Americanes, Abby Wambach, sy’n 32, a gipiodd y teitl chwaraewr gorau’r byd pêl droed i ferched.