Morgan Stoddart
Mae cefnwr y Scarlets a Chymru, Morgan Stoddart wedi ymddeol o rygbi proffesiynol oherwydd anaf i’w goes.  Torrodd Stoddart ei goes chwith wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 2011, ac nid yw wedi  gwella yn iawn ers hynny.

Roedd y cefnwr, sydd wedi chwarae 85 o weithiau i’r Scarlets, wedi bod allan am 14 mis, cyn dod yn ôl i wynebu’r Dreigiau ym mis Hydref, lle sgoriodd gais olaf mewn buddugoliaeth i’r Scarlets.

Ond ers hynny, mae wedi teimlo “poen sylweddol” yn ei goes, ac mae nawr wedi penderfynu ymddeol ar ôl derbyn cyngor meddygol.

Dywedodd Stoddart: “Gyda thristwch mae’n rhaid i mi gyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi proffesiynol,” gan ddweud ei fod wedi dioddef rhai misoedd caled iawn yn dod i dermau gyda’r ffaith na fyddai’n gwella byth eto.

“Ers i mi fod ‘nol ar y cae dwi wedi teimlo poen sylweddol yn fy nghoes sydd heb wella.  Yn dilyn cyfres o brofion meddygol, sganiau a phrofion cryfder, rydw i wedi derbyn y cyngor na allaf fynd ymlaen.”

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn 2007, a sgoriodd 26 o geisiadau ar Barc y Strade.