Hendre Fourie
Mae chwaraewr rygbi a gafodd wyth cap dros Loegr yn gorfod gadael y wlad ar ôl iddo ymddeol o’r gamp.
Wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Hendre Fourie fod yn rhaid iddo ymddeol o achos anaf i’w ysgwydd, sy’n golygu fod ei fisa chwaraeon yn annilys a bod yn rhaid iddo ddychwelyd i’w famwlad, De Affrica.
“Rwy’n gallu chwarae dros Loegr ond yn methu cael pasbort i aros yn y wlad,” meddai Fourie, a fu’n chwarae dros glwb Sale ac sydd â mab 18 mis oes a gafodd ei eni yn Lloegr.
Dywedodd y byddai’n rhaid iddo gael cytundeb am ddwy flynedd arall cyn medru ymgeisio am yr hawl i aros yn y wlad, ond ei fod ef a’i deulu wedi penderfynu fod y fiwrocratiaeth yn “ormod o boendod” a’u bod nhw’n dychwelyd i Dde Affrica.
“Rwyf i wedi talu fy nhrethi, wedi cynrychioli Lloegr, ond mae’n rhaid i fi adael tra bod hawliau terfysgwyr yn cael eu hamddiffyn,” meddai.