Brendan Rodgers
Mae rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers wedi amddiffyn Luis Suarez wedi i’r ymosodwr sgorio gôl hollbwysig yn erbyn Mansfield yng nghwpan yr FA ddoe.

Daeth Suarez ymlaen fel eilydd yn yr ail-hanner i sicrhau buddugoliaeth i Lerpwl o 2-1, ond bu dadlau ynglŷn â Suarez wedi’r chwiban olaf.

Sgoriodd yn fuan ar ôl dod ymlaen i wneud y sgôr yn 2-0, ond roedd yn ymddangos iddo lawio’r bêl yn y broses o wneud hynny.  Ni welodd y dyfarnwr unrhyw drosedd, a bu i’r gôl gyfri.

Dywedodd Rodgers mai nid lle Suarez oedd dyfarnu ar y gêm, lle’r dyfarnwyr yw hynny.  “Does dim amheuaeth ei fod wedi llawio’r bêl, ond mae’r dyfarnwyr wedi penderfynu nad oedd yn fwriadol”.

Llwyddodd Mansfield i gael un gôl yn hwyr yn yr ail hanner, ond nid oedd yn ddigon i guro’r cochion.  Dywedodd rheolwr Mansfield, Paul Cox, ei fod yn hynod falch o’i dim, a bod llawer o nodweddion positif i’w gweld yn y perfformiad.