Dean Saunders
Mae Wolverhampton Wanderers wedi cyhoeddi y bydd Dean Saunders yn cymryd y llyw fel rheolwr newydd.

Collodd Stale Solbakken y swydd ar ôl i Wolves golli o 1-0 i Luton ddydd Sadwrn.  Bydd Saunders, a chwaraeodd i Gymru 75 o weithiau, yn gadael Doncaster Rovers ar frig y Gynghrair Gyntaf.

Mewn datganiad, dywedodd Wolves eu bod yn “falch i gyhoeddi mai Dean Saunders yw rheolwr newydd y clwb.  Bydd iawndal yn mynd i glwb Doncaster i alluogi i Saunders, sy’n 48, symud i Molineux.”

Mae’r Cymro yn cyrraedd Wolves gyda’r tîm yn 18fed yn y Bencampwriaeth, ac allan o gwpan yr FA wedi i Luton, tîm sydd yn eistedd 60 safle yn is, eu curo.

Chwaraeodd Saunders i Lerpwl ac Aston Villa yn ystod ei yrfa ar y cae, ac ers hynny mae wedi profi bywyd ar yr ystlys, yn rheoli Wrecsam a Doncaster.