Aberystwyth 4-1 Prestatyn
Sgoriodd Mark Jones hatric ar ei ymddangosiad cyntaf ers ymuno o Lido Afan wrth i Aberystwyth guro Prestatyn ar Goedlan y Parc.
Cafodd Jordan Follows gyfle gwych i roi Aber ar y blaen o’r smotyn yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei gynnig ei arbed gan Lee Kendall.
Yn hytrach, bu rhaid aros tan ddeunaw munud o’r diwedd am y gôl gyntaf, ergyd nerthol gan Jones.
Ychwanegodd Jones yr ail yn fuan wedyn cyn creu’r drydedd i Follows ym munud olaf y naw deg.
Cododd Jones y bêl dros Kendall i gwblhau ei hatric yn yr amser a ganiateir am anafiadau cyn i Andy Parkinson benio gôl gysur i’r ymwelwyr yn yr eiliadau olaf un.
Mae Aberystwyth yn aros yn yr unfed safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn cadw eu gobeithion o gyrraedd y chwech uchaf yn fyw am y tro. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn llithro i’r trydydd safle.
(Torf: 260)
.
Airbus G-G Lido Afan
.
Gap Cei Connah 1-1 Caerfyrddin
Mae Caerfyrddin yn aros yn y chwech uchaf yn dilyn gêm gyfartal gyda Gap Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.
Rhoddodd Danny Forde fantais gynnar i’r tîm cartref cyn i Ricky Evans a Rob Jones wastraffu cyfleoedd i ddyblu’r fantais.
Methodd Craig Hughes gyfleoedd gorau Caerfyrddin i unioni’r sgôr cyn llwyddo i wneud hynny yn gynnar yn ar ail hanner pan beniodd gic rydd hir Steve Cann heibio i John Rushton.
Nid yw’r canlyniad yn newid dim yn y tabl gyda Chaerfyrddin yn aros yn chweched a Chei Connah bwynt ar eu holau yn y seithfed safle, ond mae gan y tîm o’r gogledd ddwyrain gêm wrth gefn.
(Torf: 202)
.
Llanelli 2-2 Bangor
Mae gobeithion Llanelli o gyrraedd y chwech uchaf drosodd yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Bangor ar Stebonheath.
Dechreuodd Llanelli yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi deunaw munud pan darodd Martin Rose y bêl heibio i Lee Idzi cyn ei gosod mewn rhwyd wag.
Dylai’r Cochion fod wedi bod ym mhellach ar y blaen ar yr egwyl ond cawsant eu cosbi am fod mor wastraffus gan Chris Simm ar ddechrau’r ail hanner. Unionodd y blaenwr y sgôr yn gynnar wedi’r egwyl cyn rhoi’r Dinasyddion ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.
Ond cafodd y tîm cartref bwynt haeddianol yn y diwedd. Gwelodd Sion Edwards gerdyn coch am lorio Rose yn y cwrt cosbi cyn i Antonio Corbisiero guro Idzi o ddeuddeg llath.
Mae’r pwynt yn codi Llanelli i’r nawfed safle yn y tabl ond mae’n fathemategol amhosibl i’r Cochion gyrraedd y chwech uchaf gan fod timau uwch eu pennau eto i chwarae’i gilydd cyn y toriad. Mae Bangor ar y llaw arall yn codi i’r ail safle ond yn aros wyth pwynt y tu ôl i’r Seintiau.
(Torf: 177)
.
Y Drenewydd 1-1 Y Seintiau Newydd
Cyfartal oedd hi rhwng y Drenewydd a’r Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Craig Williams y tîm cartref ar y blaen yn erbyn llif y chwarae yn yr hanner cyntaf cyn i Michael Wilde unioni’r sgôr toc cyn yr awr i ymestyn mantais ei dîm ar frig y gynghrair i wyth pwynt.
(Torf: 306)
.
Port Talbot 2-1 Bala
Sicrhaodd Port Talbot eu lle yn y chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor gyda buddugoliaeth dros y Bala yn Stadiwm GenQuip.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd David Brooks y tîm cartref ar y blaen toc cyn yr awr gyda’i unfed gôl ar ddeg yn y gynghrair y tymor hwn.
Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Bala funud yn ddiweddarach wrth i John Irving gael ei anfon oddi ar y cae. Ychwanegodd Chad Bond ail Bort Talbot ddeuddeg munud o’r diwedd cyn i Stephen Brown sgorio gôl gysur i ddeg dyn y Bala.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Port Talbot yn bumed ac maent bellach yn sicr o orffen yn y chwech uchaf pan fydd y tabl yn rhannu’n ddau. Mae talcen caled iawn yn wynebu’r Bala os am ymuno â’r Gwŷr Dur yn yr hanner uchaf, bydd rhaid iddynt ennill eu dwy gêm nesaf os am unrhyw obaith.
(Torf: 284)