Abertawe 2–2 Arsenal
Bydd rhaid i Abertawe ac Arsenal ail chwarae eu gêm yn nhrydedd rownd cwpan yr FA ar ôl gêm gyfartal yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul.
Rhoddodd Miguel Michu y tîm cartref ar y blaen ond roedd hi’n ymddangos fod goliau hwyr Lukas Podolski a Kieran Gibbs wedi ennill y gêm i’r ymwelwyr cyn i Danny Graham achub gêm gyfartal i’r Elyrch.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe yrrodd Michael Laudrup ei brif sgoriwr, Miguel Michu, ar y cae yn gynnar yn yr ail hanner i geisio newid y gêm. A wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i’r Sbaenwr greu argraff, yn sgorio gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi.
Tarodd Arsenal yn ôl gyda dwy gôl mewn dau funud tua diwedd yn gêm, a dwy gôl dda oeddynt hefyd. Curodd Podolski Michele Vorm gydag ergyd nerthol cyn i Gibbs roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda foli grefftus.
Ond wnaeth Abertawe ddim rhoi’r ffidl yn y to ac fe lwyddodd y Cymry i orfodi ail gêm dri munud o ddiwedd y naw deg pan sgoriodd Graham ar ôl cael ei ganfod yn y cwrt cosbi gan Ki Sung-Yeung.
Mae gêm gartref yn erbyn Brighton yn aros yr Elyrch os allant guro Arsenal yn yr Emirates.
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Bartley, Chico, Tiendalli, Davies, Britton (Agustien 69’), Dyer, Routledge (Pablo 56’), De Guzman (Michu 56’), Ki Sung-Yeung, Graham
Goliau: Michu 58’, Graham 87’
Cerdyn Melyn: Bartley 80’
.
Arsenal
Tîm: Szczesny, Sagna, Mertesacker, Koscielny, Gibbs, Arteta, Wilshere, Walcott, Ramsey (Podolski 72’), Cazorla, Giroud
Goliau: Podolski 81’, Gibbs 83’
Cardiau Melyn: Ramsey 35, Gibbs 84’