Andy Murray
Mae’r Albanwr Andy Murray wedi dal ei afael ar bencampwriaeth tenis rhyngwladol Brisbane yn Awstralia ar ôl curo Grigor Dimitriov o dair set i ddim.

Roedd Dimitriov a’i fryd ar fod y chwaraewr tenis cyntaf o Fwlgaria i ennill twrnamaint proffesiynol agored ac fe gafodd ganmoliaeth gan Murray ar ddiwedd y gêm.

“Dyma’i ffeinal cyntaf. Bydd pawb yn cytuno ei fod wedi chwarae tenis cyffrous iawn a’i bod wedi bod yn gêm anodd” meddai.

Mae Murray wedi ennill 25 o bencmpwriaeth hyd yn hyn gan gynnwys yr un yma llynedd. Bydd pencampwriaeth agored Awstralia yn cychwyn yn Melbouren 14 Ionawr.