Munster 6–17 Gleision

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth dda iawn oddi cartref yn erbyn Munster ar Barc Musgrave yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn.

Nid yw’r tîm o Gaerdydd wedi cael tymor gwych hyd yn hyn ond fe gawsant bedwar pwynt haeddiannol yng Nghorc diolch i ymdrech amddiffynnol ddewr a cheisiau Owen Williams a Robin Copeland.

Hanner Cyntaf

Munster a gafodd y gorau o’r deg munud agoriadol ond dechreuodd y Gleision ddod iddi wedi hynny a rhoddodd Rhys Patchell y Cymry ar y blaen gyda chic gosb.

Bu bron i’r maswr ifanc sgorio cais hefyd gyda chic a chwrs ond adlamodd y bêl yn angharedig iddo ar yr eiliad dyngedfennol.

Ciciodd Ronan O’Gara y Gwyddelod yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner ac roedd llinell gais y Gleision dan warchae am gyfnodau hir cyn yr egwyl, ond amddiffynnodd yr ymwelwyr yn drefnus ac yn ddewr.

Ail Hanner

Hanner cyntaf da i’r Gleision felly ond dechreuodd yr ail yn well fyth wrth i Owen Williams sgorio cais wedi dim ond tri munud. Cafodd yr asgellwr ei ryddhau gan bas Jamie Roberts cyn curo’r dyn olaf a thirio. Cais da i Williams a mantais o saith pwynt i’r Gleision yn dilyn trosiad Patchell.

Ond roedd y fantais honno i lawr i bedwar bron yn fuan wedyn wrth i’r Gleision ildio cic gosb yn syth o’r ail ddechrau.

Bu bron i Roberts a Williams gyfuno eto i greu ail gais ddeuddeg munud o’r diwedd ond roedd pas olaf y Roberts ymlaen yn dilyn rhediad cryf gan y canolwr.

Ond ni fu rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir am y sgôr dyngedfennol wrth i Copeland groesi ychydig funudau’n ddiweddarach. Cododd yr wythwr bêl rydd ar linell ddeg medr Munster cyn dangos cyflymder asgellwr i gyrraedd y llinell gais.

Un ar ddeg pwynt o fantais i’r Gleision yn dilyn trosiad Patchell felly a dim ffordd nôl i wŷr Munster.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros Treviso i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12 ond maent yn parhau naw pwynt y tu ôl i Munster yn y chweched safle.

Ymateb

Xavier Rush, aelod o dîm hyfforddi’r Gleision:

“Roedd o’n berfformiad dewr gan y bechgyn heno, fe wnaeth y tri ar hugain ohonynt amddiffyn gyda’u calonnau a chymryd y cyfleoedd pan y daethant.”

Jamie Roberts, canolwr y Gleision:

“Aeth hanner cyntaf y tymor ddim yn dda iawn i ni ac fe ddywedon ni cyn y gêm hon fod y flwyddyn newydd yn mynd i olygu dechrau newydd. Doedd hi ddim mo’r gêm bertaf ond roedd ein hamddiffyn ni heno’n dda iawn.”

.

Munster

Ciciau Cosb: Ronan O’Gara 22’, 46’

.

Gleision

Ceisiau: Owen Williams 43’, Robin Copeland 70’

Trosiadau: Rhys Patchell 44’, 71’

Cic Gosb: Rhys Patchell 11’