Connacht 30–11 Dreigiau

Cweir oedd hi i’r Dreigiau ar Faes Chwarae Galway yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn. Rheolodd Connacht y gêm i gyd gan sgorio tri chais mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Roedd y gêm fwy neu lai drosodd ar ôl hanner awr wrth i Connacht ruthro ar y blaen o ugain pwynt.

Trosodd Dan Parks ddwy gic gosb gynnar i roi ei dîm chwe phwynt ar y blaen cyn i’r dyfarnwr, Andrew McManemy, ddynodi cais cosb i’r tîm cartref.

Ychwanegodd yr wythwr, George Naoupu, ail gais toc cyn yr hanner awr ac roedd Connacht ym mhell ar y blaen yn dilyn ail drosiad Parks.

Rhoddodd Tom Prydie lygedyn o obaith i’r Dreigiau gyda dwy gic gosb o boptu’r egwyl ond diflannodd hwnnw pan sgoriodd yr asgellwr cartref, Danie Poolman, drydydd cais Connacht. Trosodd Parks hwnnw cyn ychwanegu gôl adlam ar yr awr i roi mantais o 30-6 i’r Gwyddelod gyda chwarter y gêm ar ôl.

Fe wnaeth yr eilydd fewnwr, Jonathan Evans, sgorio cais cysur hwyr i’r Cymry ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Mae’r Dreigiau yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Pro12 ar ôl colli’r cyfle i godi dros ben Connacht.

.

Connacht

Ceisiau: Cais Cosb 20’, George Naoupu 27’, Danie Poolman 44’

Trosiadau: Dan Parks 20’, 27’, 44’

Ciciau Cosb: Dan Parks 3’, 8’

Gôl Adlam: Dan Parks 59’

.

Dreigiau

Cais: Jonathan Evans 80’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 38’, 43’