Yr Arlywydd Barack Obama
Dywed y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr bod ’na ddatblygiadau wedi bod yn y trafodaethau brys i geisio osgoi “dibyn ariannol” yn yr UDA cyn hanner nos heno.
Dywedodd ffynhonnell bod y Democratiaid wedi cytuno i ymestyn toriadau treth i deuluoedd yn ennill $450,000 y flwyddyn ac unigolion sy’n ennill $400,000. Yn wreiddiol, roedd yr Arlywydd Barack Obama eisiau toriadau treth i gael eu hymestyn i deuluoedd yn ennill hyd at $250,000 y flwyddyn yn unig.
Os nad oes cytundeb gan y Gyngres erbyn Dydd Calan, fe fydd mwy na $500 biliwn o gynnydd mewn trethi yn 2013 yn dod i rym a $109 biliwn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.
Mae ’na bryder y gall America lithro nôl i ddirwasgiad os nad oes cytundeb, gan gael effaith ar farchnadoedd arian ar draws y byd.