Mae dyn 60 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan droli yn ystod ffrae honedig yn un o siopau Marks and Spencer.
Roedd y dyn wedi torri ei glun a’i arddwrn yn y digwyddiad yng nghanolfan siopa The Glades yn Bromley, yn ne ddwyrain Llundain ar 22 Rhagfyr, meddai’r heddlu.
Deuddydd yn ddiweddarach, roedd y dyn wedi dioddef problemau iechyd eraill ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae dynes 30 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth. Bydd yn dychwelyd i orsaf yr heddlu yn ne Llundain ar 29 Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Metropolitan: “Deellir bod y dyn, sy’n 60, wedi cael ei daro gan y troli ar ôl cael ei wthio gan ddynes. Fe syrthiodd i’r llawr gan dorri ei glun a’i arddwrn a chafodd ei gludo i ysbyty yng Nghaint am driniaeth.”
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Dywedodd llefarydd ar ran M&S eu bod yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.