Charmaine MacMuiris
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad yng Nghaerfyrddin ar Ddydd Nadolig wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd David Thomas O’Sullivan, 28, ei gyhuddo wythnos ddiwethaf o lofruddio Charmaine MacMuiris, 37

Cafwyd hyd i’r fam i dri o blant ar Ragfyr 25 yng nghartref O’Sullivan ym Maes yr Ysgol, Caerfyrddin. Roedd wedi cael ei thrywanu.

Fe ymddangosodd O’Sullivan gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyfer gwrandawiad.

Roedd disgwyl i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn Abertawe wythnos nesaf, ond cafodd ei newid er mwyn cydymffurfio a rheolau’r llys.

Mae’n rhaid i rywun sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth fynd gerbron Llys y Goron o fewn 48 awr ar ôl eu hymddangosiad cyntaf yn y llys ynadon.

Fe siaradodd O’Sullivan i gadarnhau ei enw yn unig, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 14 Mawrth er mwyn cyflwyno ple.