Bu farw chwe aelod o’r un  teulu yn Irac ar ôl i ddynion arfog dorri mewn i’w cartref yn nwyrain Baghdad, meddai’r heddlu.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Zayona yn y ddinas.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y rhieni, dau o blant 10 a 12 oed, a dau berthynas arall eu saethu’n farw.

Hyd yn hyn, dyw’r heddlu ddim yn gwybod beth oedd y rheswm y tu ôl i’r ymosodiad, ac mae’n ymddangos nad oedd unrhyw beth wedi cael ei ddwyn o’r tŷ.

Mae gwrthryfelwyr yn parhau i ymosod ar drigolion, a swyddogion y llywodraeth a diogelwch yn Irac, ond fe all yr ymosodiad diweddara fod o ganlyniad i ffrae deuluol, meddai’r heddlu.